Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ieithoedd y Gynhadledd

Saesneg fydd prif iaith y gynhadledd, ond gellir cyflwyno papurau ym mhob prif iaith Ewropeaidd a phob iaith Geltaidd.

Ond o gwrteisi i gynrychiolwyr eraill y gynhadledd, a chan na fydd yn bosib cynnig gwasanaeth cyfieithu papurau ar y pryd i'r Saesneg, gofynnir i gynrychiolwyr sy'n dymuno cyflwyno eu papurau mewn ieithoedd eraill heblaw am Saesneg gyflwyno crynodeb o'u papur yn Saesneg gyda’u cais papur. Caiff y crynodebau hyn eu cynnwys yn y llyfryn crynodebau er hwylustod i gynrychiolwyr eraill. Gellir cyflwyno newidiadau i grynodeb papur ar gyfer y llyfr crynodebau i drefnwyr y gynhadledd ddim hwyrach na 30 Ebrill 2017.

Rydym hefyd yn gofyn i gynrychiolwyr sy'n dymuno cyflwyno papurau mewn ieithoedd eraill heblaw am Saesneg ystyried darparu eu cyflwyniadau PowerPoint (neu gyfryngau gweledol eraill y dymunant eu defnyddio) yn Saesneg er budd cynrychiolwyr y gynhadledd na fydd o bosib yn deall yr iaith y cyflwynir y papur ynddi. Pe baech yn dymuno darparu cyfieithiadau o'ch papur fel taflen, dewch â nifer digonol o gopïau gyda chi os gwelwch yn dda neu anfonwch y daflen at drefnwyr y gynhadledd ddim hwyrach na 30 Ebrill 2017 .

Site footer