Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwybodaeth am yr ail Symposiwm Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd

Cefndir y symposiwm

Mae'r Symposia Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd yn parhau â'r gyfres o bum symposiwm cyfrwng Almaeneg, a gynhaliwyd yn 1992 (Gosen ger Berlin), 1997 (Bonn), 2001 (Marburg), 2005 (Linz) a 2009 (Zurich). Cynhaliwyd y Symposiwm Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd cyntaf yn 2013 yn Trier.

Trefnir y Symposia Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd ar ran y Societas Celtologica Europaea.

Mae ESCS yn dwad i Fangor

Yn y Symposiwm Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd cyntaf yn Trier, derbyniodd y SCE wahoddiad gan Brifysgol Bangor i gynnal yr ail symposiwm ym Mangor. Mae Prifysgol Bangor, a sefydlwyd yn 1884, wedi'i lleoli ar arfordir prydferth Gogledd Cymru wrth yr Afon Fenai. Gyda golygfeydd o Eryri i'r de ac Ynys Môn i'r gogledd mae ei lleoliad yn ddihafal. Mae'n un o Brifysgolion hynaf ac amlycaf Cymru, ac mae ganddi draddodiad hir o addysgu ac ymchwilio i hanes, archaeoleg, diwylliannau ac ieithoedd Cymru a'r byd Celtaidd ehangach. Hi sy’n arwain prifysgolion Cymru o ran ei Chymreictod a'r defnydd o'r Gymraeg, gyda nifer o'i rhaglenni gradd yn cael eu haddysgu nid yn unig yn Saesneg, ond hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel y sefydlwyd gan y Symposia Almaeneg blaenorol a'r Symposiwm Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd cyntaf, mae'n fwriad gan yr Ail Symposiwm Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd i ddwyn ysgolheigion ynghyd o holl is-ddisgyblaethau Astudiaethau Celtaidd. Croesewir papurau yn ymdrin ag ieithoedd, llenyddiaeth, diwylliant, hanes, archaeoleg, cerddoriaeth, crefydd a nifer o agweddau eraill ar y Byd Celtaidd ehangach, ac rydym yn gobeithio y bydd y gynhadledd yn cynnig arlwy cyffrous a difyr o wahanol gyfraniadau o'r holl feysydd hyn a mwy.

Galwad am bapurau

Mae'r alwad am bapurau'n agored tan 31 Ionawr 2017. Gwneir penderfyniadau am dderbyn papurau cyn 28 Chwefror 2017. Disgwylir i'r rhaglen ragarweiniol fod ar gael erbyn 15 Mawrth neu'n fuan ar ôl hynny. Sylwer o ran derbyn papurau'n bendant, bydd rhaid i'r cynrychiolwyr fod wedi cofrestru cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud am dderbyn papur.

Cofrestru i'r gynhadledd

Gellir cofrestru i'r gynhadledd o 1 Hydref 2016 ymlaen. Bydd cofrestru cynnar yn cau ar 31 Mawrth 2017. Bydd cofrestru cyffredinol yn agored tan 21 Gorffennaf 2017. Caiff y gynhadledd ei chynnal ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG. Bydd yn bosib cofrestru yno wrth ddesg y gynhadledd o 31 Gorffennaf hyd at 2 Awst 2017.

Er mwyn archebu llety yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol, dilynwch y cysylltiadau ar y dudalen gofrestru. Sylwer bod Neuaddau'r Brifysgol tua 10 munud o daith gerdded o leoliad y gynhadledd ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.

Site footer